Yr Ŵyl Gerdd Dant
- gan MeiGwilym ar Tachwedd 18th, 2010 yng nghategori Newyddion
- Sgrifennu Sylw »
Roedd CCIF yn cystadlu yn yr Ŵyl Gerdd Dant dros y penwythnos yn perfformio trefniant Guto Puw o ‘Llongau Caernarfon’.
Daeth CCIF yn drydydd, gyda Côr y Coridôr o Drefaldwyn yn gyntaf a Lleisiau’r Nant o Ddinbych yn ail.
Neu gwrandawch arni yma:
Yn dilyn sylwadau gan Arfon Gwilym ar Radio Cymru ynglŷn â naws y trefniant, roedd trafodaeth ddiddorol ar Taro’r Post 17/11 am y trefniant ac os y dylai’r Ŵyl osod canllawiau.
Eisteddfod Pontrhydfendigaid
Aeth CCIF i Eisteddfod Pontrhydfendigaid, a daethom yn fuddugol yn y gystadleuaeth Corau Cymysg, gyda Chôr y Gleision yn ail. Yna aeth pawb i'r Llew Coch, Pontrhydfendigaid...
Taith Gerdded
Aeth rhai o'r aelodau ar daith gerdded i godi arian i'r Papur Bro, Y Goriad. [GALLERY=0]
Guto yn Gyfansoddwr y Flwyddyn
Mae Guto Puw, arweinydd y CCIF, wedi ennill Gwobr Gwrandawyr Radio 3 2007 fel Cyfansoddwr y Flwyddyn. Roedd Guto wedi'i enwebu ir' wobr am ei Goncerto i'r Oboe, a berfformiwyd am y tro cyntaf ar Fai'r 2il 2006 gan Gerddorfa Genedlaethol Cymru y BBC. Darlledir y seremoni nos Iau Rhagfyr 6ed ar ...
Cyngerdd yn Y Felinheli
Ar nos Lun, Rhagfyr 3ydd, mae CCIF yn cyflwyno John Eifion Tudur Owen Disgyblion Ysgol Y Felinheli Siwan Llynor Gwion Hallam yn Neuadd Goffa Y Felinheli. Mae tocynnau yn £5, a £3 i blant a phensiynwyr. Mae tocynnau ar gael o Siop Spar Y Felinheli, Palas Print Caernarfon a Siop Pendref Bangor. Gellir hefyd eu archebu ar ...
Guto ar restr fer Gwobrau Cyfansoddwyr Prydain 2007
Mae Guto Puw, arweinydd y cor, wedi'i enwebu i Wobrau Cyfansoddwyr Prydain 2007. Fe enwebwyd y Concerto i'r Oboe, a berfformiwyd gan Gerddorfa Cenedlaethol Cymru'r BBC ar Fai'r 2il 2006, i Wobr Gwrandawyr Radio 3. Mae'r wobr hon i ddarnau comisiwn y BBC a berfformiwyd rhwng Ebrill 1af 2006 a Mawrth 31ain ...
