Guto ar restr fer Gwobrau Cyfansoddwyr Prydain 2007

Mae Guto Puw, arweinydd y cor, wedi’i enwebu i Wobrau Cyfansoddwyr Prydain 2007.

Fe enwebwyd y Concerto i’r Oboe, a berfformiwyd gan Gerddorfa Cenedlaethol Cymru’r BBC ar Fai’r 2il 2006, i Wobr Gwrandawyr Radio 3.

Mae’r wobr hon i ddarnau comisiwn y BBC a berfformiwyd rhwng Ebrill 1af 2006 a Mawrth 31ain 2007, ac mae’r bleidlais yn agored i bawb.

Gallwch wrando ar y darn a phleidleisio i Guto ar wefan Radio 3.

Bydd y gwobrau ar y teledu ar Ragfyr 6ed. Pob lwc i Guto!

Gadewch sylw