Mwy
Sefydlwyd CCIF adeg Nadolig 2002. Daeth 10 o bobl ifanc, brwdfrydig a chreadigol at ei gilydd a phenderfynu creu rhywbeth newydd a chynhyrfus.
Roedd y flwyddyn gyntaf yn annodd - roedd y côr yn ceisio dod i adnabod eu gilydd, dysgu canu gyda’u gilydd, tra’n ceisio mwynhau eu hunain. Collwyd rhai aelodau, ond ennillwyd eraill, ac yn awr mae’r côr wedi setlo mewn niferoedd.